1. Cyflwyniad

1.1 “Thriving and well-funded news media are an important part of any modern society. The better informed we are, the better we can play a full role in democratic processes. Nations, regional and local news media also play a valuable role in representing and reinforcing national and local identities. They help us to understand the communities in which we live, celebrate what is special about our nation or locality, and bring us together in common cause or common understanding.”[1]

1.2 Mae’r uchod yn crisialu buddiannau sylweddol cyfryngau newyddion iach i gymdeithas. Fodd bynnag, mae dirywiad y diwydiant papur newydd yng Nghymru – gyda gostyngiad yng nghylchrediad papurau rhanbarthol, papurau’n cau a’r lleihad oherwydd hynny yn y buddsoddiad mewn newyddiaduraeth ymchwiliol, wleidyddol ac ymgyrchu – yn golygu heriau sylweddol i’r sector. Mae’r rhyngrwyd a datblygiad platfformau cyfryngau cymdeithasol wedi dod â llawer o fuddiannau o ran lledaenu gwybodaeth ar raddfa fyd-eang. Ond er bod twf sylweddol wedi bod yn y defnydd o wefannau newyddion (E.e. gwefan Wales Online Trinity Mirror), mae cyhoeddwyr masnachol yn wynebu heriau mawr wrth iddynt geisio gwneud elw o’r datblygiadau hyn. Yn y cyfamser, nid yw newyddiaduraeth gymunedol neu ddinasyddion, gwefannau hyperleol a gorsafoedd teledu lleol wedi gwneud cynnydd o bwys o ran graddfa a chynaliadwyedd.

1.3 Yn y cyd-destun hwn, mae parhad cyflwr darparwyr newyddion darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB) -ITV masnachol a’r BBC sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus – yn hanfodol, gan sicrhau bod newyddion a dadansoddiad o faterion Cymreig yn cael sylw a phwyslais priodol mewn system ddarlledu luosog. Mae ymchwil Ofcom wedi dangos dro ar ôl tro mai Newyddion “ydy'r genre darlledu gwasanaeth cyhoeddus pwysicaf i gynulleidfaoedd o hyd”.[2]

1.4 Hefyd, mae ffenomenon ddiweddar “newyddion ffug” yn rhoi pwys ychwanegol ar bwysigrwydd ymddiried a gwasanaethau newyddion darlledu gwasanaeth cyhoeddus sydd ar gael i bawb ac sy’n denu cynulleidfaoedd mawr. Mae gweithredu o dan fframwaith rheoleiddiol Cod Darlledu Ofcom, sy’n cynnwys y gofyniad am gydbwysedd, cywirdeb ac amhleidioldeb yn bwysicach nag erioed i helpu i wasanaethu cymdeithas wybodus.

2. Cyfraniad ITV News Cymru Wales

2.1 Mewn marchnad newyddion gynhenid wan yng Nghymru, ITV Cymru Wales yw’r unig ddarlledwr cenedlaethol sy’n darparu newyddion a materion cyhoeddus heblaw am y BBC. Mae hwn yn cael ei ddarparu am ddim i’r gwyliwr heb ddim cost uniongyrchol i’r trethdalwr. Dylid edrych ar gyfraniad ITV Cymru yng nghyd-destun ehangach ITV News – darparwr newyddion y rhwydwaith masnachol, y cenhedloedd a’r rhanbarthau yn y DU gyda chyfanswm y buddsoddiad oddeutu £100 miliwn y flwyddyn.

2.2 Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ITV wedi ad-drefnu ei fodel newyddion teledu ar gyfer y cenhedloedd a’r rhanbarthau. Mae technolegau newydd a dulliau gweithio newydd wedi galluogi darlledu gwell gyda llai o adnoddau. Mae costau wedi’u lleihau, ac mae cynnyrch ar y sgrin wedi gwella, gyda mwy o bwyslais ar y lleol, mwy o aml sgiliau, mwy o gamerâu yn y maes ac ymateb cyflymach, mwy hyblyg i storïau newydd. Mae gan newyddiadurwyr gamerâu fideo a gliniaduron, a gallant ffilmio, paratoi adroddiadau a golygu yn y maes cyn cyflwyno eu storïau a darlledu’n fyw ar draws y rhwydwaith 4G i ystafelloedd newyddion.

2.3 Er 2014 mae ITV Cymru Wales wedi ei leoli yn ein canolfan ddarlledu manylder uwch fodern yn Assembly Square ym Mae Caerdydd – buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn darlledu yng Nghymru. Rydym yn cyflogi tua 100 o bobl mewn newyddion, rhaglenni a gweithrediadau: newyddiadurwyr, gohebwyr arbennig, golygyddion, cynhyrchwyr, cyflwynwyr, cyfarwyddwyr, gweithredwyr camerâu a staff technegol eraill. Mae bron i ddau draean, 65, yn newyddiadurwyr / gwneuthurwyr rhaglenni.

Cynnydd yng nghyfran y gynulleidfa

2.4 Mae amserlen oriau brig ITV Wales yn un o’r mwyaf poblogaidd yn y DU ac mae ei gwmpas a’i effaith ar gynnydd – ac mae hyn yn digwydd er gwaethaf y grymoedd andwyol sydd wedi bod yn effeithio ar ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ystod y degawd diwethaf. Mae hyn yn bwysig gan fod ITV Cymru yn darlledu’r rhan fwyaf o’i raglenni newyddion a materion cyfoes sydd o ddiddordeb i Gymru yn ystod oriau brig, gan sicrhau’r gynulleidfa fwyaf posibl ar gyfer rhaglenni newyddion a materion cyfoes.

2.5 Rydym yn awr yn nhrydedd blwyddyn ein trwydded deng mlynedd ar gyfer Sianel 3 yng Nghymru[3], gan gyflawni’r ymrwymiadau a bennwyd gan Ofcom gan felly roi rhyw gymaint o sicrwydd i’r ddarpariaeth newyddion annibynnol. Mae’r gyllideb ar gyfer rhaglenni darlledu gwasanaeth cyhoeddus ITV Cymru – a nifer y cynyrchiadau darlledu gwasanaeth cyhoeddus – wedi bod yn sefydlog yn ystod y saith mlynedd diwethaf gyda 286 o oriau o newyddion a rhaglenni bob blwyddyn.

2.6 Mae’n amlwg bod cyfraniad darlledu gwasanaeth cyhoeddus ITV yn cael ei werthfawrogi gan wylwyr yng Nghymru. Yn 2016, cododd cyfran y gwylwyr ar gyfer ein prif raglen newyddion min nos, Wales at Six, i 22.6%, cynnydd am y seithfed flwyddyn yn olynol. Yn ogystal â chynnwys cymysgedd o newyddion, chwaraeon a’r tywydd, mae’r rhaglen yn rhoi pwyslais ar yr agenda cenedlaethol yng Nghymru, gyda gohebwyr arbenigol yn rhoi sylw i’r prif feysydd polisi datganoledig.

2.7. Mae ein tîm gwleidyddiaeth, sy’n gweithio o’n swyddfa yn Nhŷ Hywel a Millbank Tower yn San Steffan, yn sicrhau sylw cynhwysfawr i fusnes y Cynulliad ac i storïau Seneddol sy’n effeithio ar Gymru.

2.8 Mae’r sylw a roddir i’r Etholiad Cyffredinol (ac a roddwyd i Etholiad y Cynulliad y llynedd ac i Etholiad Cyffredinol 2015) yn arwydd o bwysigrwydd agwedd Gymreig gref ITV News Wales ar wleidyddiaeth – sy’n cynnwys y cyfraniadau o ganolfannau cyfrif pwysig yng Nghymru ar raglen canlyniadau drwy’r nos ITV. Mae Wales At Six wedi dangos y cyfraniad a wneir ganddo at y broses ddemocrataidd trwy neilltuo llawer o amser ac adnoddau i’r ymgyrchoedd, gan adrodd ar y materion pwysig sy’n wynebu etholwyr, gan roi sylw helaeth i wleidyddion ac ymgyrchwyr a chynnwys cynulleidfaoedd yn y ddadl.

2.9 Yn ogystal â sylw i’r etholiad cyffredinol, mae’r prif storïau newyddion sydd wedi cael sylw yn 2017 hyd yma yn cynnwys: stori unigryw ar ffatri Ford; sylw manwl i effaith argyfwng y gaeaf ar ofal iechyd yng Nghymru; adroddiadau arbennig yn edrych ar fywyd yng Nghymoedd y De; cyfres o adroddiadau a oedd yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Mae ein cysylltiad agos ag ITN yn ein galluogi i gydweithio ar storïau o Gymru ar raglenni newyddion rhwydwaith ITV.

2.10 Mae ein heitem reolaidd “In Focus” ar Wales At Six yn neilltuo cryn amser i newyddiaduraeth ymchwiliol. Mae ymchwiliadau diweddar wedi cynnwys y cynnydd mewn hunanladdiad ymhlith dynion, caethiwed i gamblo, a chadw pobl â phroblemau iechyd meddwl mewn celloedd. Mae’r eitemau hyn wedi cynnwys ein cynulleidfa, gan roi cyfle i wylwyr i ddylanwadu ar yr eitemau.

2.11 Mae ein cynnyrch newyddion dyddiol hefyd yn cynnwys bwletinau cynnar (yn Good Morning Britain), amser cinio a phenwythnosau. Mae ein sioe fore Sul, Newsweek Wales, yn cynnwys cymysgedd poblogaidd o newyddion, erthyglau a gwesteion diddorol. Mae gennym dîm yn y Gogledd, sydd wedi ei leoli yn ein swyddfa ym Mae Colwyn, a newyddiadurwyr mewn lleoliadau allweddol eraill ledled y wlad. Mae ein cerbydau lloeren (un yn y de ac un yn y gogledd) yn gallu anfon lluniau byw o ba bynnag ran o’r wlad lle mae’r stori’n digwydd.

2.12 Yn 2016, cafodd dyfais o’r enw Live U ei gyflwyno gan ITV News. Mae hwn yn ddarn bychan o dechnoleg gludadwy (maint bag o siwgr) sy’n galluogi gohebwyr i ddarlledu’n fyw o unrhyw leoliad lle mae gwasanaeth 3G,4G neu ddiwifr ar gael. Mae Live U wedi gwneud cyfraniad pwysig at ein gallu i ddarlledu’n fyw gan ei fod mor fychan a chludadwy.

2.13 Mae ein cyfraniad at newyddiaduraeth yng Nghymru’n ymestyn y tu hwnt i’r rhaglenni newyddion rheolaidd gyda’n darpariaeth materion cyfoes yn ein galluogi i roi sylw mwy trylwyr i bynciau penodol. Mae Wales This Week, ein prif raglen materion cyfoes, wedi tynnu sylw at faterion pwysig a chudd sy’n effeithio ar Gymru ers 30 mlynedd. Enillodd y rhifyn ar hunanladdiad â chymorth wobr sgŵp y flwyddyn i’r gohebydd Rob Osborne – a enillodd iddo hefyd wobr newyddiadurwr y flwyddyn – yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru 2017. Mae ein rhaglen wythnosol ar wleidyddiaeth Sharp End yn rhoi sylw bywiog a dealladwy i wleidyddiaeth Gymreig o’r Cynulliad Cenedlaethol a San Steffan.

2.14 Rydym hefyd yn cynnig lluosogrwydd mewn materion cyfoes yn y Gymraeg yn sgil y rhaglenni rydym yn eu cynhyrchu i S4C. Mae Y Byd Ar Bedwar wedi ennill gwobrau, ac mae wedi bod yn ymchwilio i storïau cenedlaethol a rhyngwladol am dros 30 o flynyddoedd; rydym yn cynhyrchu 21 rhifyn o’r gyfres i’r sianel yn ystod 2017. Mae Hacio, ein rhaglen materion cyfoes ar gyfer pobl ifanc, wedi cael ei chanmol am roi llais i’r genhedlaeth iau. Mae dadl arbennig Hacio a chyfres o dair rhaglen Y Ras i 10 Downing Street yn rhan o sylw S4C i Etholiad Cyffredinol 2017.

Gwasanaeth newyddion digidol

2.15 Mae gwefan ITV News Wales yn cynnwys gwasanaeth newyddion digidol i’r funud ar draws sawl platfform – o ben desg i symudol. Mae’r wefan hefyd yn ychwanegu lluosogrwydd pellach i’r ddarpariaeth newyddion ar-lein genedlaethol yng Nghymru ochr yn ochr â gwefan newyddion BBC Cymru a Wales Online Trinity Mirror. Mae gennym strategaeth “enw da yn erbyn cyrhaeddiad” yn yr ystyr nad ydym yn ddibynnol ar nifer y cliciau a gawn – ond yn hytrach, ar werthoedd ymddiriedaeth, cywirdeb ac amhleidioldeb sy’n deillio o’n statws fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn y gofod digidol. Mae ein harlwy unigryw yn cyrraedd mwy o bobl ac yn denu cynulleidfaoedd newydd i newyddion darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Mae ein newyddion digidol yn cyrraedd cynulleidfa ieuengach na theledu, ac mae’r defnydd o blatfformau fel Facebook wedi ymestyn cyrhaeddiad ein cynnwys newyddion fideo’n sylweddol. Edrychwyd ar gynnwys fideo fwy na 5 miliwn o weithiau ar ein tudalen Facebook yn 2016; hefyd mae mwy na 130,000 yn ein hoffi ar Facebook.

2.16 Mae rhagor o botensial i ddatblygu’r wefan newyddion. Nid yw hyn yn golygu cystadlu’n uniongyrchol â gwefannau papurau newydd lleol neu safleoedd hyperleol, sydd ill dau’n cynnig arlwy gwahanol a mwy lleol i ddefnyddwyr. Ond yr hyn mae’n ei olygu yw adeiladu ar gryfderau rhanbarthol craidd y rhaglen newyddion presennol – fideo o ansawdd uchel, gohebu o’r fan a’r lle, cyflwynwyr a gohebwyr adnabyddus ac ati – i wella ansawdd cyffredinol ac ystod y gwasanaethau. 

Buddsoddi yn y dyfodol

2.17 Mae ITV Cymru Wales wrthi’n recriwtio’r genhedlaeth nesaf o ohebwyr darlledu yng Nghymru. Rydym yn cynnig lleoliadau i fyfyrwyr o wahanol golegau a phrifysgolion yng Nghymru ac rydym hefyd yn cynnig prentisiaethau mewn disgyblaethau technegol a gweinyddol.

2.18 Rydym yn cydweithredu ag Ysgol Eastern High yng Nghaerdydd o dan y cynllun “Dosbarth Busnes”. Mae hwn yn helpu i wireddu dyheadau a chyrhaeddiad disgyblion ac mae’n galluogi prosiectau sy'n fuddiol i ITV trwy roi syniad o sut y gallwn ymestyn ymhellach ac ennyn diddordeb y genhedlaeth iau mewn newyddion darlledu gwasanaeth cyhoeddus a’r defnydd a wneir ohono yn y dyfodol.

Amrywiaeth

2.19 Elfen bwysig o’n rôl yw adlewyrchu amrywiaeth y Gymru fodern. Rydym yn monitro amrywiaeth ein portread ar y sgrin ac yn bwydo canfyddiadau i’r timau newyddion fel y bydd cydweithwyr yn ymwybodol o’r hyn y mae angen i ni ei wella. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio â Chydraddoldeb Hiliol Cymru i ddarparu hyfforddiant yn y cyfryngau i 40 o wirfoddolwyr o amrywiaeth o gymunedau ar hyd a lled Cymru. Nod hyn yw cynyddu’r gronfa o leisiau cymunedol sy’n ddigon hyderus i ddatgan eu barn ar y teledu.

2.20 Rydym hefyd yn rhan o’r cynllun “Breaking Into News”, sy’n gweithio i roi cyfle i ddarpar newyddiadurwyr i gael eu mentora gan rai o’n newyddiadurwyr teledu ac i gynhyrchu pecynnau newyddion. Bydd carfan newydd o bobl ifanc yn cael ei gwahodd i gymryd rhan yn ein digwyddiad “Ystafelloedd Newyddion Agored” ar gyfer y sawl a hoffai gael gyrfa mewn newyddion teledu.

3. Heriau’r dyfodol

3. 1 Yn amlwg, mae gan ITV News yng Nghymru rôl bwysig i’w chwarae i gynnal ystod a dyfnder darllediadau newyddion ac i sicrhau bod amrywiaeth o leisiau’n parhau i gael eu clywed. Rydym yn credu bod ein darpariaeth, ochr yn ochr â Newyddion BBC Cymru, yn gwasanaethu’r cyhoedd yng Nghymru’n dda o ran cystadleuaeth, dewis ac amrywiaeth o safbwyntiau.

3.2 Fodd bynnag, rhaid cydnabod y realiti masnachol. I ITV, mae newyddion y cenhedloedd a’r rhanbarthau’n golygu cost sylweddol, o ystyried yr angen i gynhyrchu a darlledu dros 20 o raglenni ochr yn ochr. Fel y dywed Foster a Dennis yn eu hadroddiad, “a purely commercially motivated broadcaster would be highly unlikely to commit substantial resources to regional news”.[4]

3.3 I sicrhau dyfodol newyddion y cenhedloedd a’r rhanbarthau, ac er mwyn cynnal lluosogrwydd yn yr hyn sy’n cael ei gynhyrchu, mae ITV yn credu y bydd yn bwysig cadw’r fframwaith darlledu ffafriol sydd wedi helpu i’w gynnal hyd yma. Dylai Llywodraeth y DU roi sylw i ddau beth o ran polisi / rheoleiddio:

        Yn gyntaf, mae angen gweithredu i barhau i sicrhau’r mesurau hynny sy’n helpu’n benodol i ddigolledu ITV am y costau sydd ynghlwm wrth amodau’r drwydded darlledu gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys newyddion y cenhedloedd a’r rhanbarthau. Mae hyn yn cynnwys parhau i sicrhau mynediad at sbectrwm radio digonol i warantu bod gwasanaethau darlledu’r brif Sianel 3 yn cael eu trawsyrru’n ddigidol i bawb, a sicrhau lle amlwg priodol i’r prif sianelau gwasanaeth darlledu cyhoeddus ar y rhestr sianelau electronig (EPG) ar gyfer y dyfodol, a rhyngwynebau mynediad at gynnwys eraill.

        Yn ail, sicrhau bod y fframwaith darlledu’n parhau i roi siawns teg i ITV i wneud elw rhesymol ar ei fuddsoddiad unigryw mewn lefelau uchel o gynnwys gwreiddiol yn y DU. Bydd hyn yn sicrhau cryfder tymor hir Sianel 3, yn seiliedig ar sianel â chynulleidfa dorfol gyda lefelau uchel o fuddsoddiad mewn cynnwys gwreiddiol am ddim i bawb. Dylid rhoi pwyslais penodol ar y cydbwysedd economaidd rhwng Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus a phlatfformau.

3.4 Rydym yn gobeithio y bydd ein cyflwyniad yn help i oleuo’r Pwyllgor. Mae cyfraniad ITV Wales News ar ei orau pan fydd yn rhan o gyfundrefn o ffynonellau lluosog a bywiog. Ar ei ben ei hun, ni ellir disgwyl iddo roi sylw i bopeth. Nid oes gennym y gofod i roi sylw i fanion busnes cynghorau lleol. Ni allwn gynnig yr un lefel

o berthnasedd lleol ag y mae safleoedd ar-lein hyperleol yn ei gynnig. Hefyd, oherwydd ei natur, fel y dywed Foster a Dennis, mae newyddion cenhedloedd a rhanbarthau ITV yn cael llai o effaith yn y maes ymgyrchu. Gellir priodoli hyn yn rhannol i’r fframwaith rheoleiddio yr ydym yn gorfod gweithio o fewn iddo, sy’n mynnu cydbwysedd ac amhleidioldeb.

3.5 Ond rydym yn rhoi sylw i faterion cenedlaethol a lleol mawr y dydd ac yn helpu i feithrin ymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol trwy sianel cynulleidfa dorfol a brand uchel ei barch ITV. Bydd dod o hyd i atebion parhaol i’r heriau economaidd sy’n wynebu’r sector papurau newydd a chyfryngau ar-lein yn anodd. Yn draddodiadol mae gwasanaethau newyddion darlledu gwasanaeth cyhoeddus wedi cael eu cyfoethogi gan gystadleuaeth o gyfeiriad cyfryngau newyddion eraill ac fel ffynonellau syniadau a thalent newydd. O’r herwydd, mae gan eu dirywiad oblygiadau i ITV Cymru Wales – yn enwedig pan ddaw’n fater o ddatblygu talent newydd a lleisiau newydd. Yr hyn sy’n amlwg yw bod sicrhau newyddion darlledu gwasanaeth cyhoeddus masnachol cynaliadwy yng Nghymru yn bwysicach nag erioed.



[1] News Where you Are: The Future Role of Nations and Regions TV News in the UK gan Robin Foster ac Aileen Dennis 2015

[2] Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn Oes y Rhyngrwyd, Ofcom 2015

[3] Trwyddedau Sianel 3 yw ITV a STV; mae ymrwymiadau ar y ddau o ohonynt i ddarparu rhaglenni newyddion teledu rhanbarthol fel rhan o’u trwydded.

[4] News Where you Are: The Future Role of Nations and Regions TV News in the UK gan Robin Foster ac Aileen Dennis 2015